Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Defnyddwyr
- Cynhaliwyd ar Teams
Yn bresennol:
Sioned Williams |
Aelod o'r Senedd, Cadeirydd |
Dave Mendes da Costa |
Cyngor ar Bopeth |
Nicola Evans |
Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn |
Justin McMullen |
Which? |
Nicole |
Which? |
Jessica Tye |
Awdurdod Safonau Hysbysebu |
Amy Dutton |
Cyngor ar Bopeth Cymru |
Anwen Jones |
Cyngor ar Bopeth Cymru |
Margaret Kinsey |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili |
Cyflwyniad
Croesawodd Sioned Williams AS aelodau a siaradwyr gwadd i gyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol am y flwyddyn.
Cyflwyniad gan Which?
Amlinellodd Justin y gwaith y mae Which? yn ei wneud ar gynaliadwyedd, gan nodi bod gwella inswleiddio cartrefi yn gwella cynhesrwydd a chyfforddusrwydd, yn lleihau biliau ynni, ac yn cefnogi aelwydydd i newid i wres glân. Amlygodd hefyd fod llawer o aelwydydd (a landlordiaid llai) yn wynebu rhwystrau sylweddol o ran gwella effeithlonrwydd ynni eu heiddo. Nododd fod diffyg ymwybyddiaeth, gwybodaeth a chyngor, gan ychwanegu bod pobl am gael mwy o wybodaeth sydd wedi'i theilwra i'w hanghenion.
Soniodd am yr anhawster i ddod o hyd i osodwyr cymwys a dibynadwy gan fod y maes hwn yn un cymhleth i osodwyr ac felly mae defnyddwyr yn “llugoer” am y gwaith neu’n teimlo’n bryderus ynghylch talu am insiwleiddio.
Dywedodd Justin fod Which? yn galw ar lywodraethau i wella ymwybyddiaeth drwy ymgyrchoedd cyhoeddus a thrwy weithio gyda busnesau a sefydliadau sy’n ymgysylltu â chartrefi ar adegau pan fyddant yn debygol o ystyried gwella inswleiddio. Mae Which? hefyd yn galw ar lywodraethau i wella dibynadwyedd a pherthnasedd Tystysgrifau Perfformiad Ynni. Yn ogystal, mae'n galw am i rwydwaith o Siopau Un Stop achrededig gael ei sefydlu i ddarparu cyngor mwy teilwredig i gartrefi. Ar ben hynny, mae Which? yn galw ar lywodraethau i bennu erbyn pryd y bydd yn rhaid i bob gosodwr yn y sectorau inswleiddio a gwresogi glân gael ei ardystio a sicrhau bod y cynlluniau'n cyrraedd safonau uchel. Awgrymodd y dylid pennu erbyn pryd y bydd yn rhaid i osodwyr gael eu hardystio fel bod y cynlluniau'n cyrraedd safonau uchel. Yn olaf, mae Which? yn galw ar lywodraethau i sicrhau bod gan Safonau Masnach yr adnoddau i fynd i'r afael â masnachwyr twyllodrus.
Cyflwynodd Nicole fynegai Priority Places for Insulation Which? ar gyfer Cymru. Nod y mynegai yw nodi amgylchiadau cymharol gwahanol ardaloedd lleol o ran yr angen am inswleiddio. Ychwanegodd fod rhai o alwadau polisi Which? yn gofyn am ddealltwriaeth fanylach o anghenion lleol.
Mynegodd Nicole yr angen i ystyried y gwahanol ffactorau o ran stoc tai, megis lefelau inswleiddio (data EPC), mathau o eiddo ac oedran eiddo (data EPC) a meddwl am y bobl sy'n byw yn y cartrefi a'u hincwm, eu cyflyrau iechyd a’u hoedran. At hynny, o ran amgylchiadau cartrefi, amlygodd bwysigrwydd ffactorau megis lefel incwm fel procsi ar gyfer tlodi tanwydd (data SYG), cyflyrau iechyd (data GIG Cymru) ac oedran y boblogaeth (data SYG).
Nododd Nicole fod y mynegai insiwleiddio wedi canfod bod y lleoedd â blaenoriaeth ar gyfer inswleiddio i’w cael yn ne Cymru yn bennaf. Yn y gogledd, mae'r ardaloedd â blaenoriaeth ar wasgar yma ac acw ar hyd arfordir lle mae insiwleiddio’r cyrchfannau gwyliau Fictoraidd, a adawyd tan nawr, yn wael iawn. Dywedodd Nicole fod y mynegai yn rhoi cipolwg defnyddiol o bethau ar lefel etholaeth, gan gynnwys sgoriau manwl a lefel yr angen am insiwleiddio eiddo mewn ardaloedd. Pwysleisiodd Nicole ei bod yn hollbwysig i lefel y gosodwyr inswleiddio lleol gael ei harchwilio ochr yn ochr ag angen. Canolrif y cwmnïau fesul 100,000 o bobl yng Nghymru yw 17, ac o'r rhain mae 14 yn osodwyr ardystiedig. Ceir rhagor o wybodaeth am eu canfyddiadau ar gyfer Cymru yn yr erthyglhon.
Cyflwyniad Cyngor ar Bopeth: Gwasanaethau Defnyddwyr
Gwnaeth Dave Mendes de Costa, Prif Swyddog Polisi o dîm Gwasanaethau Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, amlinellu’r meysydd gwaith blaenoriaeth megis fforddiadwyedd mewn marchnadoedd hanfodol, nodi arferion a chanlyniadau gwael a mynd i’r afael â nhw, a diwygio i roi’r defnyddiwr wrth wraidd y marchnadoedd.
Mae nodi arferion a chanlyniadau gwael a mynd i’r afael â nhw yn un o brif flaenoriaethau Cyngor ar Bopeth. Nododd y problemau mewn gwasanaethau hanfodol a chyffredin eu defnydd megis prisio Telco gyda chodiadau prisiau ganol contract a chytundebau cudd ac yswiriant gyda phrisiau uchel a phrisiau gwahaniaethol gan fod prisiau'n debygol o fod yn uwch i bobl o liw. Yn ogystal, mae Cyngor ar Bopeth wedi gweld cynnydd o 76% yn nifer y bobl sy’n ceisio cymorth gyda materion Prynwch Nawr Talwch Wedyn – mae CA wedi bod yn pwyso am well rheoleiddio yn y sector hwn ers blynyddoedd lawer.
Sylwadau ac UFA
Cyfeiriodd Nicola Evans o Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn at eu ffrwd waith ar grwpiau ymylol gan fod y mater yn broblem i nifer o bobl hŷn sy’n agored i niwed. Nododd Jessica Tye fod marchnadoedd penodol yn effeithio ar grwpiau ymylol a bod ASA yn debygol o gael cwynion gan grwpiau ymylol.
Mewn unrhyw fusnes arall, dywedodd Jessica Tye o ASA y byddai'n hapus i gyflwyno trosolwg o'u gwaith diweddar yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol. Diolchodd y Cadeirydd i'r siaradwyr am eu cyfraniadau a diolchodd i'r Aelodau am ddod i'r cyfarfod.